Welcome to YoungNewport! Please sign up or login

Yr Amlygiad O CLIC

Posted by Stormer007 from Cardiff - Published on 24/06/2011 at 11:21
0 comments » - Tagged as Creative Writing, Movies

  • Sam

English version

Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Fideo'r Flwyddyn yng Ngwobrau CLIC 2011.

Gan fy mod i wrth fy modd gydag amlgyfryngau, dwi wedi penderfynu rhoi gwledd i chi i gyd gyda dau fath o gyfrwng: yr ysgrifenedig a'r fideo!

Efallai dy fod di'n cofio cwpl o fisoedd yn ôl, cafwyd fideo ar CLICarlein yn ymwneud â gadael sylwadau (Fideo. Gorau. Erioed. (Tan. Nawr.) – Golygydd).

Wel, roedd y fideo yn gymaint o lwyddiant fel bod fy ffrind annwyl Gareth (adnabuwyd fel CrazyDistortion i chi bobl hyfryd, edrycha ar ei waith) a finnau wedi dod at ein gilydd i greu fideo pynciol arall am y materion sydd yn wynebu CLIC.

Wedi bron i fis mewn cynhyrchiad (y rhan fwyaf ohono yn cael ei dreulio'n golygu… ia, dwi'n edrych arnat ti, Gareth) ond dyma fe. Dwi wedi penderfynu cynnwys, ar gyfer dy adloniant, y sgript wreiddiol. Gall weld sut mae wedi dod drosodd ar y sgrin.

Fideo CLIC
Saethiad o lygaid yn ymddangos!
Cyflwynydd: Newyddion Sy'n Torri!
Mae'r saethiad yn newid i un o ddifrod llwyr. Wedi gwasgaru dros y parc mae cyrff marw/anymwybodol. Mae'r saethiad yn sgubo o'r cyrff i'r cyflwynydd.
Cyflwynydd: Fel y gwelir o'r difrod o fy nghwmpas, dim ond yn ddiweddar mae'r argyfwng wedi taro! O fy nghwmpas mae pobl druan sydd wedi cael eu heffeithio'n ddrwg gan y broblem ofnadwy yma! Gareth! Mae'r un yma dal yn fyw! Brysia.
Mae'r cyflwynydd a'r dyn camera yn rhedeg drosodd at fachgen/merch/dyn/dynes sydd yn cwyno ac mewn cyflwr garw.
Cyflwynydd: Madam/Syr, fedrwch chi ddweud wrthym beth ddigwyddodd yn fan hyn?
Dioddefwr: Beth ddigwyddodd? Dwi… *tagu* roedd yna… anghenfil. Anghenfil anferth.
Cyflwynydd: Ond beth oedd yr anghenfil hwn? Beth oedd ei enw? Beth oedd o'n edrych fel?
Dinesydd: Roedd o… mor bwerus… galwodd… i ni cyn iddo ddatgan ei fod… am ddinistrio ni. Edrychodd… yn syth ataf cyn iddo ymosod a… a… ei enw oedd… galwodd ei hun yn (mae ef/hi yn llewygu).
Cyflwynydd: Nawr beth ydym ni am wneud Gareth? Mae'n rhaid darganfod beth yw'r argyfwng yma a beth gall wneud i'w stopio!
Saethiad o esgidiau yn cyd-fynd gyda llais.
Llais: Dwi'n meddwl gallaf i helpu.
Saethiad o'r cyflwynydd:
Cyflwynydd: Ond pwy wyt ti?
Mae'r camera yn gogwyddo i fyny o'r esgidiau i amlygu jîns tenau du, siaced crys, siaced brethyn, bresys a thei bô.
Y Doctor: Fi ydy'r Doctor. Helo.
Cyflwynydd: Doctor? Doctor Pwy? (Ddim yn cael yr un effaith yn hollol yn y Gymraeg a "Doctor Who" yn y Saesneg! – Golygydd)
Y Doctor: O dwi wrth fy modd pan fydd pobl yn gofyn hynna i mi!
Cyflwynydd: Am beth wyt ti'n siarad? Gwranda, fe ddywedais di y gallet helpu ni! Sut? Wyt ti'n gwybod beth oedd hwn? Ydy hwn?
Y Doctor: Wel ydw. Ond fe gostith i chi. Dwi angen dau jammy dodger, copi o albwm newydd Lady Gaga, pad ysgrifennu newydd sbon, beiro gwirion mawr a mynediad i wefan o'r enw CLICarlein.
Saethiad du yn digwydd gyda'r geiriau "dau jammy dodger, un copi o albwm newydd Lady Gaga, un pad ysgrifennu newydd sbon a beiro gwirion mawr wedyn" arno.
Cyflwynydd: Reit, dyma ti. Dyma dy stwff di. Dwi ddim yn deall yn iawn pam dy fod angen hyn i gyd.
Y Doctor: Ti ddim wedi bod yn talu sylw nac wyt?
Cyflwynydd: Wel… ymm… dwi…
Y Doctor: Nid estronwr arferol ydy'r anghenfil yma. Dyw'r estronwr yma ddim yn bodoli mewn ffurf gorfforol. Wel, mae yn, gan ei fod wedi gwneud hyn, ond nid oes ganddo ffurf gorfforol ei hun! Mae'n amlygiad o'r diffyg fideos sydd ar y wefan yna roeddwn i'n sôn amdano wrthyt. CLICarlein. Mae'r anghenfil yma yn ffynnu o'r egni negyddol sydd yn cael ei greu oherwydd y diffyg fideos ar y wefan yma. Os wyt ti wirioneddol eisio stopio'r anghenfil yma bydd rhaid i ti ledaenu'r neges i bobl ifanc CLIC. (Mae'n gafael ar y camera ac yn siarad i mewn iddo) Gwnewch fideos. Dyna pam fod camerâu yn bodoli. Dyna pam fod CLIC wedi'i alluogi i gynnwys fideos! Mae fideos yn ffordd wych o fynegi dy farn ac yn fwy na hynny, bydd yn stopio'r anghenfil ofnadwy yna rhag ymosod eto. Fe ddaeth yn agos iawn at fy siop sglodion gorau!
Mae Gareth yn cymryd y camera yn ôl ac yn ei bwyntio ar Sam.
Cyflwynydd: Ond Doctor: Wyt ti wir yn meddwl gallwn ni stopio'r anghenfil yma?
Doctor: Ti wir ddim wedi bod yn talu sylw nac wyt? Gwranda, dwi wedi gweld cipolwg o ddyfodol y wefan yma. Gwefan sydd efo adran fideo un pwrpas. Gwefan sydd yn galluogi pobl ifanc i fynegi eu barn hyd yn oed os nad ydynt yr ysgrifenwyr gorau. Gwefan sydd yn hwyl i bawb ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymchwilio a datblygu eu dychymyg a chreadigrwydd. Ia. Fe fedri di helpu stopio'r anghenfil yma, ond yn fwy pwysig, gall helpu eich hunain!… Nawr te, wyt ti wedi gweld bocs mawr glas yn rhywle, mae'n ymddangos fel fy mod wedi ei golli… (mae'n crwydro i ffwrdd).
Cyflwynydd: (yn troi i wynebu'r camera) Dweud dy fod di wedi dal hynna i gyd! (y camera yn nodio).
 
Diwedd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.