Penodau Llenwi Naruto
Dwi yma i siarad am lenwadau, a pam eu bod yn cythruddo cymaint o ffans anime, manga a theledu fel fi.
Dwi eisiau siarad yn benodol am hyn mewn perthynas â'r anime a manga, Naruto.
Mae penodau llenwi Naruto wedi symud i lefel hollol newydd, ac i fod yn gwbl onest, dwi wedi cael digon.
Ond, dwi'n gorfod gwylio.
I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gyfarwydd â'r term, mae pennod llenwi yn bennod lle nad oes dim yn digwydd sydd yn berthnasol i'r brif stori a bydda'r sioe yn parhau i wneud synnwyr hebddo (heblaw am Neon Genesis Evangelion, ac os wyt ti'n deall stori hwnnw'n gyfan gwbl, yna ti'n dweud celwydd).
Mae penodau llenwi Naruto bron yn chwedlonol o fewn y gymuned anime. Dim ond un frwydr sydd wedi digwydd yn y 13 pennod ddiwethaf o'r gyfres, a mwy. Mae'r frwydr yn dilyn patrwm tebyg i hyn:
Pennod 1: Cymeriadau yn cyfnewid golwg cas.
Pennod 2: Prif gymeriad yn ceisio symudiad sylfaenol, sydd yn methu
Pennod 3: Prif gymeriad yn cael panig am fod y gelyn yn ymddangos yn gryf
Pennod 4: Ôl-fflach
Pennod 5: Prif gymeriad yn rhoi araith am pam bod rhaid iddynt ennill, am wybodaeth bellach gweler pennod 4
Pennod 6: Cymeriadau yn cyfnewid golwg cas eto
Pennod 7: Prif gymeriad yn cysidro symudiad cryf gall achosi iddo ennill
Pennod 8: Prif gymeriad yn meddwl sut gall y symudiad fynd o'i le
Pennod 9: Prif gymeriad yn dechrau gwneud y symudiad beth bynnag
Pennod 10: Ôl-fflach
Pennod 11: Prif gymeriad yn defnyddio'r symudiad, ac yn ennill
Pennod 12: Gelyn yn cael ôl-fflach o pam fod rhaid iddynt ennill a pa mor siomedig ydyw ei fod wedi colli
Pennod 13: Ôl-fflach/trosolwg cyffredinol o'r frwydr
Yn y sefyllfa debygol iawn fod y symudiad ym Mhennod 11 yn ffaelu, mae'n parhau fel hyn:
Pennod 11: Prif gymeriad yn defnyddio'r symudiad, ond y symudiad yn ffaelu
Pennod 12: Gelyn yn defnyddio symudiad cryfach sydd yn anafu'r prif gymeriad yn ddifrifol
Pennod 13 - Ôl-fflach
Pennod 14 – Prif gymeriad, wedi'i sbarduno gan bŵer emosiwn ôl-fflach, yn penderfynu defnyddio symudiad hyd yn oed mwy cryf (dwi ddim yn deall pam fod hwn ddim yn cael ei ddefnyddio yn y lle cyntaf)
Pennod 15 – Symudiad y prif gymeriad yn sicrhau ei fuddugoliaeth (gobeithio)
Pennod 16 – Ôl-fflach gelyn o pam roedd rhaid iddynt ennill a pa mor siomedig ydyw ei fod wedi colli
Pennod 17 - Ôl-fflach/trosolwg cyffredinol o'r frwydr
Fel y gwelir, mae hyn yn ddiflas iawn i wylio, yn enwedig os mai dim ond un pennod yr wythnos ti'n gwylio. Gall yr un frwydr yno gymryd tri i bedwar mis i gwblhau!
A dyw hynny, fy annwyl ddarllenwyr, yn ddim pam ti'n cyrraedd canol cyfres chwech pam fydd un o'r prif gymeriadau yn penderfynu rhedeg i ffwrdd. Mae bron fel petai yn cael ysgariad â'r gyfres: "Dwi'n gadael ti, dwi'n mynd â'r stori efo fi! Gei di gadw'r golygfeydd ymladd diflas a'r nifer gwirion o ôl-fflachiau!"
Gallet ti stopio gwylio pam mae hynny yn digwydd o ddifri. Dwi'n rhywun sydd wedi gwylio pob pennod sydd yn sugno dy enaid di wedi'i hynny ddigwydd: ac nid oes dim yn digwydd. Yr unig beth sydd yn rhaid i ti wybod ydy fod dwy gyfres a hanner o bwysau emosiynol wedi'i gymysgu gydag ychydig o olygfeydd ymladd a dyna ni. Paid rhoi dy hun drwyddo.
Gallet neidio yn syth i NarutoShippuden, lle mae'r stori i fod i ddychwelyd! Lle nad oes llenwi! Ac mae'r byd yn gwneud synnwyr eto! Anghywir. Mae Shippuden i fod yn ailddyfodiad yr etholfraint Naruto. Mae dwy flynedd wedi mynd heibio, mae pawb efo dillad newydd (i raddau) ac mae pawb efo symudiadau cŵl newydd i ddangos eu hunain mewn brwydr.
Yn anffodus, ar ôl y penodau cyntaf, mae'r brwydrau yn dychwelyd i'w meithder diflas unwaith eto ac mae'n ymddangos fod y symudiadau newydd cŵl yn cymryd mwy o amser i'w defnyddio.
Mae'r gyfres yn parhau a dwi yn bresennol o flaen yr anime drwy ddarllen y manga. Yn bresennol maent ar bennawd 560 (oddeutu) ac wedi'u cloi mewn 'Rhyfel Shinobi' sydd yn amlwg efo GOLYGFEYDD YMLADD DIFLAS. Dwi wedi colli arni yn gyfan gwbl!
Dwi'n deall fod nifer o olygfeydd ymladd ac ôl-fflachiau mewn rhyfel ond mae hwn yn wallgof. Ble mae'r stori wedi diflannu? Mae digon o gyfleoedd wedi bod yn y 150 pennawd diwethaf i orffen y gyfres ond mae'n edrych fel bod yr awdur yn gwneud i'r ffans ddisgwyl. A disgwyl. A disgwyl mwy.
Nid yw'n ymddangos fel bod diwedd iddo. Yn bresennol mae naw tymor o Naruto gyda 220 pennod, wedi'i ddilyn gan deg cyfres o Shippuden efo 236 pennod ac yn dal i fynd.
Ond, mae'n rhaid i mi ddweud, er y llenwi cythruddol iawn, mae Naruto yn gyfres wych a dwi'n ei awgrymu i unrhyw un sydd â'r amser a'r arian. Byddet yn dysgu caru pob cymeriad ac yn cael dy gyffwrdd yn emosiynol ganddo amryw waith.
Plîs, gwylia fe os gallet. Mae'n annhebyg iawn byddet yn cael dy siomi. Ond bydda'n amyneddgar.
Felly, i orffen, ychydig o gyngor i bobl sydd yn meddwl cael cyfres gyffrous eu hunain: cadwch i'r stori a chadwch yr ymladd i ddeg pennod neu lai i gadw'r gwylwyr yn eithaf hapus ac yn barod i dalu am yr holl DVDs / llyfrau ayb fydd, yn y diwedd, werth ffortiwn fach ar eBay.
A darn o wybodaeth fach ychwanegol i ti, mae Naruto yn golygu cacen bysgod yn Japan. Gwylia'r gyfres a cheisia rhwystro dy hun rhag giglan pan fyddent yn ei ddweud.
Tudalen Gwneud Ffilmiau ac Animeiddio

