Croeso i YoungNewport! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Dechrau gwaith

Gall dechrau swydd newydd fod yn brofiad cyffrous a gall ymddangos ychydig yn frawychus ar y dechrau, oherwydd mae bod yn weithiwr yn wahanol i fod yn fyfyriwr. Byddwch yn cyfarfod pobl newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill arian am y gwaith a wnewch.

Bydd gennych rôl a swydd i’w chyflawni a disgwylir rhai pethau gennych mewn gweithle, sef bod yn brydlon, dilyn cyfarwyddiadau a dangos eich bod yn ddibynadwy.

Efallai y byddwch yn canfod fod gan eich bywyd gwaith fwy o batrwm iddo na’r hyn yr ydych yn arfer ag ef yn arferol. Efallai y bydd yn rhaid i chi adrodd i rywun fel rheolwr neu arolygydd, a byddant yn rhoi cyfarwyddiadau i chi neu yn gofyn i chi gyflawni tasgau arbennig, weithiau o fewn cyfnod penodol. Byddwch hefyd yn darganfod bod yn rhaid i chi roi cyfrif am eich gweithredoedd a’ch penderfyniadau, fel pam y gwnaethoch dasg mewn modd arbennig. Bydd llawer o weithleoedd yn disgwyl i chi ddangos menter – gwneud pethau heb i bobl ofyn i chi neu eich arolygu.

 

Gall gymryd amser i ddod i arfer â’ch amgylchedd gwaith newydd, bydd rhai pobl yn addasu’n gyflymach nag eraill. Mae’n helpu i ofyn cwestiynau os nad ydych yn sicr am unrhyw beth ac yn syniad da gwneud ymdrech i ddod i adnabod eich cydweithwyr newydd yn y gwaith.

Ceisiwch fod yn gyfeillgar ac yn barod i helpu yn y gweithle ond yn yr un modd peidiwch â gadael i bobl gymryd mantais arnoch oherwydd eich bod yn ifanc ac yn newydd i’r swydd. Os cewch broblemau yn y gweithle fel bwlio neu wahaniaethu peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth. Siaradwch â’ch arolygydd neu eich rheolwr i ddarganfod pwy y gallwch siarad â nhw yn Adnoddau Dynol neu’r adran Personel os oes ganddynt un, oherwydd mae’n bosib y bydd gweithdrefn cwynion ar gael. Mae Unedau Llafur hefyd y gallwch ymuno â nhw am gyfraniad rheolaidd bychan o’ch cyflog sy’n gwarchod gweithwyr ac sydd yno i’ch helpu neu gallech fynd at y Ganolfan Cynghori am gyngor am ddim ynghylch beth y dylech ei wneud.

Sefydliadau

  • Citizens Advice

    Citizens Advice

    The Citizens Advice service helps people resolve their legal, money and other problems by providing free, independent and confidential advice, and by influencing policymakers. Welsh here. ...The Citizens Advice service helps people resolve their legal, money and other problems by providing free, independent and confidential advice, and by influencing policymakers.

    www.citizensadvice.org.uk/

  • The site - Discrimination at work

    The site - Discrimination at work

    If you feel you're being treated unfairly at work, there may be a law to protect you. Read on to find out about your rights, and what you can do about discrimination in the workplace.

    www.thesite.org/workandst .... ghts/discriminationatwork

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.