Sut y gallaf gymryd rhan?
Pwy yw’r Grŵp Golygyddol?
Grŵp o bobl ifanc rhwng 11-25 oed sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am ysgrifennu, anfon adroddiadau, tynnu lluniau, dylunio a hyrwyddo ar gyfer y wefan hon. Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gwneud penderfyniadau am y cynnwys.
Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd. Does arnoch chi ddim angen profiad a’r cyfan a ofynnwn yw eich bod yn frwdfrydig, yn ymrwymedig ac yn barod i roi cynnig arni... Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp cysylltwch â ni yn infoshop@newport.gov.uk neu ffoniwch 01633 255031 / 784054
Beth yw’r fantais i mi?
Casnewydd Ifanc yw ble y gallwch ddod i gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen.
Mae’n caniatáu i chi lwytho erthyglau, lluniau, fideos, dyluniadau a rhoi cyhoeddusrwydd i ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ac o amgylch Casnewydd.
Ymunwch â Ni
Yn gyntaf oll, mae ymuno â Grŵp Golygyddol Casnewydd Ifanc am ddim, do, fe glywoch yn iawn...am ddim. Rydych yn cael bod yn rhan o grŵp cŵl o bobl sy’n defnyddio’r safle a’r fforwm hwn. A lleisio eich barn i’r byd. Os ydych yn hoffi ffilmiau, neu yn gwybod am bopeth sy’n mynd ymlaen yn eich cymuned leol rydym am glywed am hynny.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn lawrlwytho’r Ddogfen Word, ei hargraffu a chael eich rhieni / gwarcheidwad i’w harwyddo os ydych o dan 18 oed. Wedi iddi gael ei harwyddo, gallwch ei phostio atom (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen) neu gallwch fynd a hi i’r Siop Gwybodaeth (133 Commercial Street, Casnewydd).
Dolen i... Ffurflen Gofrestru
neu cysylltwch â:
Nichola Davies
Uwch Swyddog Gwybodaeth Ieuenctid
133 Commercial Street
Casnewydd
NP20 1LY
nichola.davies@newport.gov.uk
infoshop@newport.gov.uk
Ff: 01633 255031 / 784054
